Oriau: 29 awr (4 diwrnod yr wythnos) rhwng 08:00-18:00
Hyd cytundeb: Tymor penodedig 12 mis (gyda'r posibilrwydd o estyniad yn dibynnu ar gyllid)
Cyflog: £20,800
Lleoliad: Cwmpasu ardal Heddlu Gogledd Cymru
Patrwm gweithio: Gweithio o'r cartref gyda rhywfaint o ofyn teithio. Bydd disgwyl i chi gyflawni gwasanaeth wyneb yn wyneb i gleientiaid yn eu cartref eu hunain neu fan cyfarfod diogel o fewn eich rhanbarth.
Mae disgwyl y byddwch yn treulio rhywfaint o amser yn gweithio o un neu fwy nag un o'r gorsafoedd heddlu canlynol, yn dibynnu ar lle rydych yn byw:
Ceir manylion pellach yn y cyfarfod.
Brake ydym ni sef yr elusen diogelwch ffyrdd glodwiw genedlaethol sy'n darparu Gwasanaeth Cenedlaethol Dioddefwyr y Ffyrdd (NRVS). Rydym wedi bod yn cynorthwyo dioddefwyr lladdfeydd ar ein ffyrdd ers 1995. Rydym hefyd yn ymgyrchu am newid cadarnhaol er mwyn atal gwrthdrawiadau yn y dyfodol ac achub bywydau.
Wyddoch chi fod rhywun yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd bob 20 munud? Mae effaith hynny ar unigolion a'u teuluoedd ehangach yn fawr a phellgyrhaeddol a gall ddigwydd i unrhyw un ohonom ni, unrhyw bryd.
Mae Gwasanaeth Cenedlaethol Dioddefwyr y Ffyrdd yn tyfu, gan ganiatáu i ni gyrraedd mwy o bobl mewn angen ac ychwanegu at ein sylfaen sydd wedi hen sefydlu er mwyn creu gwaddol parhaol. Er mwyn cynorthwyo'r twf hwn, rydym yn chwilio am weithiwr achos penderfynol i ddod yn rhan o'n tîm brwdfrydig, egnïol a dynamig, gan gyflawni gwasanaethau cymorth o'r radd flaenaf i bobl ar adeg pan maent fwyaf bregus.
Nid yw hon yn swydd 9 tan 5 gyffredin, ac nid ydy cyfleoedd fel hyn yn dod bob dydd. Gallech fod yn chwarae rhan sylweddol yn ein hymrwymiad i gyflwyno ein gwasanaethau cymorth trawma ledled y wlad sydd wedi'u datblygu'n glinigol. Gallech wneud cyfraniad cadarnhaol i fywydau pobl sydd wedi profi galar trawmatig neu wedi'u hanafu'n ddifrifol oherwydd gwrthdrawiadau traffig ffordd.
Rydym angen pobl egnïol a mentrus sy'n frwdfrydig ynghylch cynorthwyo pobl eraill i ymuno â'n tîm ffantastig.
Rydym yn chwilio am bobl sydd â chefndir mewn darparu cymorth emosiynol ac ymchwil ac eiriolaeth ymarferol i bobl fregus ar ôl trawma seicolegol difrifol fel marwolaeth anwylyn mewn amgylchiadau treisgar.
Yn benodol, rydym yn chwilio am ymgeiswyr gyda:
Rhaid i ymgeiswyr allu siarad Cymraeg. Bydd disgwyl i chi gefnogi teuluoedd sy'n iaith gyntaf Gymraeg.
Mae gennym ddiddordeb derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr gyda phrofiad o gynorthwyo pobl sydd wedi dioddef galar sydyn neu brofiad o weithio gyda phobl gyda bregusrwydd dwysach. Nid yw hyn yn eithrio pobl eraill gyda llaw.
Mae profiad yn y rolau canlynol yn tueddu trosglwyddo'n dda i rôl gweithiwr achos yn Brake: heddlu, rolau o fewn y system cyfiawnder troseddol, swyddog cyswllt teuluoedd, cwnselydd, profiad mewn gofal iechyd a chymdeithasol neu brofiad blaenorol fel gweithiwr achos mewn unrhyw faes.
Daw'r wobr fwyaf o wybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gadarnhaol i adferiad rhywun o drawma seicolegol, a'r heriau emosiynol neu ymarferol a brofir gan eu galar sydyn neu anaf difrifol.
Os ydych yn ceisio her newydd ac yn meddwl fod gennych y sgiliau, angerdd a'r ymrwymiad rydym yn chwilio amdano, byddem â diddordeb clywed gennych chi.
Cyflwynwch eich CV a llythyr eglurhaol sy'n dangos yn glir fod gennych yr hyn sydd ei angen er mwyn cyflawni'r rôl heriol a gwerthfawr hon at: recruitment@brake.org.uk.
Mae ceisiadau’n cau ddydd Dydd Iau 10 Hydref.